Rhif y ddeiseb: P-05-959

Teitl y ddeiseb: Rhowch fynediad at slotiau dosbarthu siopa blaenoriaeth yr archfarchnadoedd i bobl sy’n agored i niwed yng Nghymru yn ystod COVID19

Geiriad y ddeiseb: Fel mam i blentyn sy’n agored i niwed, hoffwn gael mynediad at slot dosbarthu siopa blaenoriaeth yr archfarchnadoedd wrth imi orfod ei chysgodi yn ystod yr argyfwng COVID19.

 

Rwy'n gwerthfawrogi bod y cynghorau lleol yn dosbarthu parseli bwyd am ddim a bod llawer o bobl yn gweithio'n galed iawn i ddarparu'r rhain. Ni waeth pa mor dda yw’r weithred hon, nid yw'n ddigon i gymryd lle cael cyflenwadau wedi’u dosbarthu gan archfarchnad i’ch cartref. Ar ben hynny, rwyf wedi bod mewn cysylltiad â llawer o bobl agored i niwed sy'n teimlo'r un fath.

 

Yn gyntaf, mae'r blwch bwyd am ddim ar gyfer y person sy’n agored i niwed yn unig, ac wrth gwrs mae angen bwyd a phrynu cynhyrchion glanhau ac iechydol arnon ni fel teulu hefyd. O ganlyniad, mae angen imi siopa o hyd, ac ar ôl 21 diwrnod o gysgodi, nid wyf wedi gallu cael dim cyflenwadau wedi’u dosbarthu i’m cartref. Mae hyn yn ei gwneud yn anodd iawn i ni hunan-ynysu fel teulu fel y cawsom gyngor i’w wneud gan ein Nyrs Anadlol.

 

Rwy'n teimlo ei bod yn annheg iawn fod pobl yn Lloegr yn gallu cofrestru ar gyfer hyn ar wefan GOV.uk a chaiff y neges ei throsglwyddo yn awtomatig i archfarchnadoedd, ond ni all pobl yng Nghymru wneud hynny. Mae pobl Cymru yn hawlio budd-daliadau, yn trethu ein ceir, yn cwblhau hunanasesiadau a llawer mwy ar y wefan hon, felly pam na allwn gael mynediad at y wefan i gael mynediad â blaenoriaeth i siopa.

 

Rhowch fynediad at slotiau dosbarthu siopa blaenoriaeth yr archfarchnadoedd i bobl sy’n agored i niwed yng Nghymru ar wefan GOV.uk neu sefydlwch system / gwefan debyg ar gyfer Cymru.

 

Diolch yn fawr!

 


Y cefndir

Mae’n ofynnol bod pawb yng Nghymru sy’n wynebu risg uchel o salwch difrifol o ganlyniad i’r coronafeirws oherwydd problem iechyd sylfaenol isorweddol yn dilyn trefniadau ‘gwarchod'. Mae hyn yn cynnwys aros gartref am 12 wythnos.

Dylai'r bobl eithriadol o agored i niwed hyn fod wedi cael llythyr gan Brif Swyddog Meddygol Cymru – 'llythyr gwarchod' – erbyn 17 Ebrill.

Mae'r llythyr yn cynghori y bydd y rhai sy'n ei dderbyn yn cael mynediad at slotiau dosbarthu siopa blaenoriaeth ar gyfer dosbarthiadau siopa ar-lein o archfarchnadoedd.

Mae hefyd yn dweud, os nad yw'r unigolion hyn yn gallu siopa ar-lein, ac nad oes ganddynt unrhyw ffordd arall o gael bwyd (h.y. nid oes ganddynt deulu, ffrindiau, cymdogion na grwpiau cymorth a all helpu), maent yn gymwys i gael bocs bwyd wythnosol am ddim wedi’i ddosbarthu i'w cartref.

Mae’r 'cynllun danfon bwyd uniongyrchol' gwerth £15 miliwn wedi’i ariannu gan Lywodraeth Cymru a'i gyflwyno gan awdurdodau lleol.

Ar 8 Ebrill, cadarnhaodd Llywodraeth Cymru ei bod wedi cwblhau cytundebau data â'r prif archfarchnadoedd ac y byddant yn rhoi blaenoriaeth i archebion ar-lein y mae angen eu danfon i gartrefi pobl a warchodir yng Nghymru.

Mae hyn yn dilyn trefniant tebyg rhwng Llywodraeth y DU ac archfarchnadoedd i’r rhai sydd fwyaf agored i niwed yn Lloegr, sydd wedi bod ar waith ers diwedd mis Mawrth.

Fodd bynnag, yn Lloegr, mae pobl hefyd yn gallu cofrestru eu hunain fel rhai sy’n agored i niwed:

Nid yw hyn yn wir yng Nghymru; nid yw pobl yma yn gallu cofrestru fel pobl agored i niwed. Mae'r cyngor ar wefan Llywodraeth Cymru yn nodi:

Dydyn ni ddim yn gofyn i bobl Cymru gofrestru fel rhywun agored i niwed.  Rydym yn sylweddoli bod y trefniadau’n wahanol yn Lloegr, ond rydym wedi penderfynu mynd ati mewn ffordd wahanol yma.

Os ydych chi’n agored i niwed, dylech ofyn i’ch teulu, ffrindiau a chymdogion eich helpu, a defnyddio gwasanaethau ar-lein. Os nad yw hyn yn bosib, yna mae’r sector cyhoeddus, busnesau, elusennau a’r cyhoedd yn gyffredinol yn paratoi i helpu. Mae mwy o wybodaeth ar Cefnogi Trydydd Sector Cymru.

Os yw rhywun yng Nghymru yn teimlo’u bod yn eithriadol o agored i niwed ond heb dderbyn y llythyr gwarchod, fe'u cynghorir i drafod eu pryderon gyda'u meddyg teulu neu glinigydd ysbyty. Mae canllawiau Llywodraeth Cymru yn dweud bod meddygon teulu wedi cael rhestr o'r bobl yr anfonwyd y llythyr atynt. Dylai meddygon teulu wirio'r rhestr yn erbyn eu rhestr o gleifion a “chysylltu ag unrhyw bobl risg uchel ychwanegol na chawsant eu nodi o bosibl er mwyn sicrhau eu bod hefyd yn derbyn y cynghorion yn y llythyr”.

 

Camau gan Lywodraeth Cymru

Adeg ysgrifennu’r briff hwn, nid yw’r Pwyllgor wedi cael llythyr gan y Gweinidog mewn perthynas â’r ddeiseb hon.

 

Camau gan y Senedd

Adeg ysgrifennu'r briff hwn, nid oedd y mater penodol o bobl yn gallu cofrestru fel bod yn agored i niwed yn Lloegr ond nid yng Nghymru wedi cael ei drafod fel rhan o fusnes y Senedd.

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir ar adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw'r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na'u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.